Description –

Broccoli (Brassica oleracea var. italica) is an edible green plant in the cabbage family (family Brassicaceae, genus Brassica) whose large flowering head, stalk and small associated leaves are eaten as a vegetable. Broccoli is classified in the Italica cultivar group of the species Brassica oleracea. Broccoli has large flower heads, usually dark green, arranged in a tree-like structure branching out from a thick stalk which is usually light green. The mass of flower heads is surrounded by leaves. Broccoli resembles cauliflower, which is a different but closely related cultivar group of the same Brassica species.

It is eaten either raw or cooked. Broccoli is a particularly rich source of vitamin C and vitamin K. Contents of its characteristic sulfur-containing glucosinolate compounds, isothiocyanates and sulforaphane, are diminished by boiling but are better preserved by steaming, microwaving or stir-frying.

Rapini, sometimes called “broccoli rabe,” is a distinct species from broccoli, forming similar but smaller heads, and is actually a type of turnip (Brassica rapa).


Disgrifiad –

Planhigyn bwytadwy yn nheulu’r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy’n golygu “brig blodeuol y fresychen” a’r ffurf bachigol brocco, sef “hoelen fechan” neu “flaguryn”. Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio’n well.

Dosbarthwyd brocoli i’r grŵp cylfatar ‘Italica’ o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae’n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda’i ganghennau’n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta’r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i’r flodfresychen, sy’n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.

Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli. Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.

Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.

Amaethu

Mae’r planhigyn brocoli’n tyfu ar ei orau mewn tywydd claear (ddim yn rhy gynnes nac yn rhy oer): yn enwedig pan gaiff dymheredd dyddiol o rhwng 18 °C a 23 °C. Pan dyf y blodau yng nghanol y planhigyn, mae’r clwstwr yn wyrdd. Yr adeg hon, fel arfer, torrir y rhan uchaf oddeutu dwy gentimetr o’r top, a hynny cyn i’r blodyn droi’n felyn.

Ond ceir math o frocoli (brocoli eginol) a all wrthsefyll tywydd poeth a’r pryfaid a ddaw yn sgil hynny.