cynilo a storio had

mae had yn hanfodol

Gwarchod a gwella bioamrywiaeth Cymru trwy gynilo a storio had blodau gwyllt brodorol a chnydau bwyd ar raddfa leol a chymunedol.

Cynilo Had

Sicrhau bod gennym hadau lleol ar gyfer y bobl a'r lleoedd rydym yn byw ynddynt

peillio agored

Sicrhau hadau organig a hyfyw a fydd yn tyfu yn yr amgylchedd lleol

Safio Had

Sicrhau bwyd i’n cymunedau'r flwyddyn nesaf ac am flynyddoedd i ddod

Gwinllan a roddwyd i'm gofal
Yw Cymru fy ngwlad,
i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant.

Cynilo Had Peillio Agored Safio Had

Mae arbed hadau a gweithio gyda natur wedi bod yn digwydd ers milenia. Mae angen arbed y sgiliau hyn a'u trosglwyddo. Dim ond dros y 100 mlynedd diwethaf y mae amaeth ungnwd cemegol wedi dod i ddominyddu a bod mor niweidiol i iechyd pobl a'r blaned yr ydym yn byw arni.

Dolenni i'r adnoddau, canllawiau a gwefannau gorau yn y DU a ledled y byd.

TYFU EICH BWYD EICH HUN O gynnyrch ARCHFARCHNADOEDD

Tomatos, Pupur, Chilies, Sinsir, Ffa, Tatws..........

Nid oes raid iddo fod yn had organig nac allan o baced!

Dyma rai o'r rhesymau pam

Pam?

Bioamrywiaeth

Tyfu cynefinoedd Organig a Bioamrywiol sy'n gweithio gyda natur. Hyrwyddo digonedd o amgylcheddau cyfoethog o bryfed a phridd.

Iechyd

Hyrwyddo byw'n iach gyda chynnyrch organig neu biodynamig heb blaladdwyr. Cynnwys wedi'i lwytho siwgrau naturiol a fitaminau. Cynnyrch gyda chynnwys caloriffig uwch.

Diogelwch Bwyd

Sicrhau diogelwch bwyd i gymunedau lleol. Heb ei effeithio gan bwysau costau o ganlyniad i danwydd neu chwyddiant, costau gwrtaith byd-eang, cludiant neu 'Brexit'.

Peillio Agored

Mae hadau sy'n cael eu cadw ar ôl peillio agored yn fwy gwydn na hadau hybrid F1. Mae'r amrywiad sy'n dod o beillio naturiol yn hyrwyddo gwydnwch a detholiad naturiol ac yn lleihau'r anfanteision o ungnwd hybrid. Mae amrywioldeb hadau wedi'u peillio'n agored yn hyrwyddo detholiad naturiol, croesfridio naturiol ac yn datblygu cryfder ac egni i blanhigion tyfu yn yr amgylchedd lleol yna'r flwyddyn nesaf.

Amrywiaeth Hadau

Mae yna bedwar cwmni Agrocemegol mawr sy'n dominyddu'r marchnadoedd hadau masnachol yn fyd-eang. Y rhain yw - BASF, Bayer/Monsanto, ChemChina-Syngenta, a Corteva Agriscience. Nhw sy'n berchen ar yr hawliau i bron i 70% o werthiant hadau a phlaladdwyr byd-eang! Mae arbed hadau o amrywiaethau treftadaeth ac arallgyfeirio ac ehangu ein hystod o amrywiaethau yn cryfhau ein gwytnwch yn erbyn tueddiad ungnwd hybrid a'i wendidau anochel o ran diogelwch bwyd.

Addysg

Heb hadau does yna ddim planhigion. Heb amrywiaeth mae yna fygythiadau oherwydd gwendidau ungnwd. Mae amgylcheddau amrywiol yn hyrwyddo cadwyni bwyd lleol cadarn. Mae gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, yn lleol o'r hadau i'r fforc ac i'r plât, yn sgil gydol oes y mae'n rhaid ei drosglwyddo i bawb.

Cydnerthedd Cymunedol

Mae rhaid ailadeiladu cymunedau a all dyfu eu cynnyrch eu hunain. Cynnyrch maen nhw'n gwybod neith tyfu yn y math o bridd a'u hinsawdd Leol. Heb blaladdwr, gwrtaith cemegol a di-GM. Mae angen cynnwys y gwytnwch hwn ym mhob cymuned i atal effeithiau rhyfel, newyn neu newid hinsawdd. Hunanddibyniaeth o iechyd y pridd hyd at fwyd maethlon, wedi'i wahanu oddi wrth fympwyon cadwyni cyflenwi ac argyfyngau ariannol.

Milltiroedd Bwyd / ôl troed carbon

Mae bwyd maethlon, wedi'i hau, ei dyfu a'i fwyta'n lleol gyda hadau wedi'u harbed ar gyfer y tymor nesaf yn gylch rhinweddol. Mae'n arbed arian ac o'i dyfu'n organig, mae'n hybu iechyd da ac yn gynaliadwy i'r amgylchedd. Mae paced plastig o ffa Ffrengig bach o Kenya yn costio cymaint i bawb mewn cymaint o ffyrdd. Mae ffa a arbedwyd o gnwd y llynedd ac a dyfwyd yn lleol yn gynaliadwy a cymaint well am nifer fawr o resymau.

Newyddion

o'r Blog

Pannas – Parsnip (Pastinaca sativa)

Disgrifiad – Llysieuyn o deulu’r foronen yw panasen (Lladin: Pastinaca sativa) lluosog “Pannas”. Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni’n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniad. Yn ôl y gwyddonwyr mae hi’n perthyn hefyd i deulu’r helogen (neu seleri), persli a ffenel. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy’n fwytadwy. Cyn dyfodiad y…

Glas yr ŷd – Cornflower (Centaurea Cyanus)

Disgrifiad- Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Glas yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Centaurea cyanus a’r enw Saesneg yw Cornflower. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Penlas yr ŷd. Daw’r gair “Asteraceae”, sef yr enw ar y teulu hwn, o’r gair ‘Aster’, y genws mwyaf lluosog o’r…

Bilwg yr ŷd – Corncockle (Agrostemma Githago)

Disgrifiad – Deugotyledon ac un o deulu’r ‘pincs’ fel y’u gelwir ar lafar gwlad yw Bulwg yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Caryophyllaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Agrostemma githago a’r enw Saesneg yw Corncockle. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Bulwg yr ŷd, Bulwg Rhufain, Gith, Pabi’r Gwenith, Yaid, Ydig. Caiff ei dyfu’n aml mewn…

Iechyd y Pridd

Mae iechyd y pridd yn sylfaenol i egni ac amrywiaeth y planhigion sy’n tyfu ynddo.

Mae egwyddorion organig a bio-dynamig rheoli pridd yn hybu iechyd y pridd trwy weithio gyda byd natur i adeiladu cyfrwng llawn maetholion sy’n meithrin ac yn caniatáu i blanhigion ffynnu.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch

Ffôn : 07464 052992

Email : info@had.cymru

Oriau Agor

LLUN-GWE amrywio

SAD-SUL amrywio

Dilynwch ni