Gwarchod a gwella bioamrywiaeth Cymru trwy gynilo a storio had blodau gwyllt brodorol a chnydau bwyd ar raddfa leol a chymunedol.
Cynilo Had
Sicrhau bod gennym hadau lleol ar gyfer y bobl a'r lleoedd rydym yn byw ynddynt
peillio agored
Sicrhau hadau organig a hyfyw a fydd yn tyfu yn yr amgylchedd lleol
Gwinllan a roddwyd i'm gofal
Yw Cymru fy ngwlad,
i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant.
Cynilo Had Peillio Agored Safio Had
Mae arbed hadau a gweithio gyda natur wedi bod yn digwydd ers milenia. Mae angen arbed y sgiliau hyn a'u trosglwyddo. Dim ond dros y 100 mlynedd diwethaf y mae amaeth ungnwd cemegol wedi dod i ddominyddu a bod mor niweidiol i iechyd pobl a'r blaned yr ydym yn byw arni.
Dolenni i'r adnoddau, canllawiau a gwefannau gorau yn y DU a ledled y byd.
TYFU EICH BWYD EICH HUN O gynnyrch ARCHFARCHNADOEDD
Tomatos, Pupur, Chilies, Sinsir, Ffa, Tatws..........
Nid oes raid iddo fod yn had organig nac allan o baced!
Dyma rai o'r rhesymau pam
Pam?
Bioamrywiaeth
Tyfu cynefinoedd Organig a Bioamrywiol sy'n gweithio gyda natur. Hyrwyddo digonedd o amgylcheddau cyfoethog o bryfed a phridd.
Iechyd
Hyrwyddo byw'n iach gyda chynnyrch organig neu biodynamig heb blaladdwyr. Cynnwys wedi'i lwytho siwgrau naturiol a fitaminau. Cynnyrch gyda chynnwys caloriffig uwch.
Diogelwch Bwyd
Sicrhau diogelwch bwyd i gymunedau lleol. Heb ei effeithio gan bwysau costau o ganlyniad i danwydd neu chwyddiant, costau gwrtaith byd-eang, cludiant neu 'Brexit'.
Peillio Agored
Mae hadau sy'n cael eu cadw ar ôl peillio agored yn fwy gwydn na hadau hybrid F1. Mae'r amrywiad sy'n dod o beillio naturiol yn hyrwyddo gwydnwch a detholiad naturiol ac yn lleihau'r anfanteision o ungnwd hybrid. Mae amrywioldeb hadau wedi'u peillio'n agored yn hyrwyddo detholiad naturiol, croesfridio naturiol ac yn datblygu cryfder ac egni i blanhigion tyfu yn yr amgylchedd lleol yna'r flwyddyn nesaf.
Amrywiaeth Hadau
Mae yna bedwar cwmni Agrocemegol mawr sy'n dominyddu'r marchnadoedd hadau masnachol yn fyd-eang. Y rhain yw - BASF, Bayer/Monsanto, ChemChina-Syngenta, a Corteva Agriscience. Nhw sy'n berchen ar yr hawliau i bron i 70% o werthiant hadau a phlaladdwyr byd-eang! Mae arbed hadau o amrywiaethau treftadaeth ac arallgyfeirio ac ehangu ein hystod o amrywiaethau yn cryfhau ein gwytnwch yn erbyn tueddiad ungnwd hybrid a'i wendidau anochel o ran diogelwch bwyd.
Addysg
Heb hadau does yna ddim planhigion. Heb amrywiaeth mae yna fygythiadau oherwydd gwendidau ungnwd. Mae amgylcheddau amrywiol yn hyrwyddo cadwyni bwyd lleol cadarn. Mae gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, yn lleol o'r hadau i'r fforc ac i'r plât, yn sgil gydol oes y mae'n rhaid ei drosglwyddo i bawb.
Cydnerthedd Cymunedol
Mae rhaid ailadeiladu cymunedau a all dyfu eu cynnyrch eu hunain. Cynnyrch maen nhw'n gwybod neith tyfu yn y math o bridd a'u hinsawdd Leol. Heb blaladdwr, gwrtaith cemegol a di-GM. Mae angen cynnwys y gwytnwch hwn ym mhob cymuned i atal effeithiau rhyfel, newyn neu newid hinsawdd. Hunanddibyniaeth o iechyd y pridd hyd at fwyd maethlon, wedi'i wahanu oddi wrth fympwyon cadwyni cyflenwi ac argyfyngau ariannol.
Milltiroedd Bwyd / ôl troed carbon
Mae bwyd maethlon, wedi'i hau, ei dyfu a'i fwyta'n lleol gyda hadau wedi'u harbed ar gyfer y tymor nesaf yn gylch rhinweddol. Mae'n arbed arian ac o'i dyfu'n organig, mae'n hybu iechyd da ac yn gynaliadwy i'r amgylchedd. Mae paced plastig o ffa Ffrengig bach o Kenya yn costio cymaint i bawb mewn cymaint o ffyrdd. Mae ffa a arbedwyd o gnwd y llynedd ac a dyfwyd yn lleol yn gynaliadwy a cymaint well am nifer fawr o resymau.
Newyddion
o'r Blog
Pannas – Parsnip (Pastinaca sativa)
Disgrifiad – Llysieuyn o deulu’r foronen yw panasen (Lladin: Pastinaca sativa) lluosog “Pannas”. Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni’n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniad. Yn ôl y gwyddonwyr mae hi’n perthyn hefyd i deulu’r helogen (neu seleri), persli a ffenel. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy’n fwytadwy. Cyn dyfodiad y…
Glas yr ŷd – Cornflower (Centaurea Cyanus)
Disgrifiad- Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Glas yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Centaurea cyanus a’r enw Saesneg yw Cornflower. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Penlas yr ŷd. Daw’r gair “Asteraceae”, sef yr enw ar y teulu hwn, o’r gair ‘Aster’, y genws mwyaf lluosog o’r…
Bilwg yr ŷd – Corncockle (Agrostemma Githago)
Disgrifiad – Deugotyledon ac un o deulu’r ‘pincs’ fel y’u gelwir ar lafar gwlad yw Bulwg yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Caryophyllaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Agrostemma githago a’r enw Saesneg yw Corncockle. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Bulwg yr ŷd, Bulwg Rhufain, Gith, Pabi’r Gwenith, Yaid, Ydig. Caiff ei dyfu’n aml mewn…
Iechyd y Pridd
Mae iechyd y pridd yn sylfaenol i egni ac amrywiaeth y planhigion sy’n tyfu ynddo.
Mae egwyddorion organig a bio-dynamig rheoli pridd yn hybu iechyd y pridd trwy weithio gyda byd natur i adeiladu cyfrwng llawn maetholion sy’n meithrin ac yn caniatáu i blanhigion ffynnu.
Cysylltwch â ni
Ffôn : 07464 052992
Email : info@had.cymru
LLUN-GWE amrywio
SAD-SUL amrywio