Pannas – Parsnip (Pastinaca sativa)

By Waen

Disgrifiad – Llysieuyn o deulu’r foronen yw panasen (Lladin: Pastinaca sativa) lluosog “Pannas”. Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni’n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniad. Yn ôl y gwyddonwyr mae hi’n perthyn hefyd i deulu’r helogen (neu seleri), persli a ffenel. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy’n fwytadwy. Cyn dyfodiad y…

Glas yr ŷd – Cornflower (Centaurea Cyanus)

By Waen

Disgrifiad- Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Glas yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Centaurea cyanus a’r enw Saesneg yw Cornflower. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Penlas yr ŷd. Daw’r gair “Asteraceae”, sef yr enw ar y teulu hwn, o’r gair ‘Aster’, y genws mwyaf lluosog o’r…

Bilwg yr ŷd – Corncockle (Agrostemma Githago)

By Waen

Disgrifiad – Deugotyledon ac un o deulu’r ‘pincs’ fel y’u gelwir ar lafar gwlad yw Bulwg yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Caryophyllaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Agrostemma githago a’r enw Saesneg yw Corncockle. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Bulwg yr ŷd, Bulwg Rhufain, Gith, Pabi’r Gwenith, Yaid, Ydig. Caiff ei dyfu’n aml mewn…

Cennin Syfi – Chives (Allium schoenoprasum)

By Waen

Cennin Syfi – Chives (Allium schoenoprasum) Mae cennin syfi yn rhywogaeth o blanhigion blodeuol yn y teulu Amaryllidaceae sy’n cynhyrchu dail a blodau bwytadwy. Mae eu perthnasau agos yn cynnwys y winwnsyn cyffredin, garlleg, sialóts, ​​cennin, ‘scallions’, a nionyn Tsieineaidd. Planhigyn lluosflwydd, mae’n gyffredin ei natur ar draws llawer o Ewrop, Asia a Gogledd America.…

Amranwen ddi-sawr – Scentless Mayweed (Tripleurospermum inodorum)

By Waen

Disgrifiad – Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Amranwen ddi-sawr sy’n enw benywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Tripleurospermum inodorum a’r enw Saesneg yw Scentless mayweed. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ffenigl y Cŵn, Amranwen, Ffenigl Cochion, Ffenigl Rhuddion. Daw’r…

Melyn yr ŷd – Corn marigold (Glebionis segetum)

By Waen

Disgrifiad – Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Melyn yr ŷd sy’n enw gwrywaidd. Mae’n perthyn i’r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chrysanthemum segetum a’r enw Saesneg yw Corn marigold. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Melyn yr ŷd, Aban, Gold, Gold Mair, Gold…