Brocoli – Broccoli (Brassica oleracea)
Disgrifiad – Planhigyn bwytadwy yn nheulu’r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy’n golygu “brig blodeuol y fresychen” a’r ffurf bachigol brocco, sef “hoelen fechan”…